cotton wolf – ofni
Yn dilyn eu halbwm cyntaf ‘Life in Analogue’ a enwebwyd ar gyfer y ‘Welsh Music Prize’ yn 2017, mae ‘Ofni’ yn ail albwm Cotton Wolf. Wedi’i osod ar gefndir thematig o ansicrwydd cymdeithasol, mae deunydd tywyllach yr albwm yn cyfuno paranoia bryderus â phositifrwydd llawn gobaith. Mae’r traciau newydd gan y deuawd o Gaerdydd yn dangos cynhyrchiad mwy beiddgar gyda thempoau cyflymach a synau electronig mwy pur, ochr yn ochr ag elfennau hudolus, haniaethol a melodig a oedd yn ganolog i’w rhyddhad blaenorol. Er mai offerynnol yw mwyafrif yr albwm, mae’r gân deitl yn cynnwys cyfraniad llais ysbrydol gan Hollie Singer o Adwaith.
Celf y clawr gan Louise Mason. Trefniant a theipograffeg gan Ctrl Alt Design. Argraffir y clawr gyda ffoil magenta, a’r finyl wedi’i wasgu ar finyl coch.









