Skip to content

dylunio graffig arobryn wedi’i leoli yng nghaerdydd.

ynglŷn â ctrl alt design

Mae Ctrl Alt Design yn asiantaeth ddylunio arbenigol sy’n darparu brandio, argraffu a dylunio gwe i gwmnïau ac unigolion ledled y DU, gan gynnwys gwasanaethau dwyieithog i siaradwyr Cymraeg. Gyda chreadigaethau unigryw a dynamig, os ydych angen brand newydd ar gyfer eich busnes, gwefan ar gyfer eich prosiect nesaf, neu clawr albwm ar gyfer eich cerddoriaeth, rydym yma i wireddu syniadau.

Os ydych chi am weithio gydag asiantaeth ddylunio talentog a di-ffwdan, cysylltwch â ni heddiw trwy ddefnyddio’r ffurflen isod.

brandio

Eich brand yw eich hunaniaeth. Gallwn ddylunio a datblygu’r hyn ydych chi a’ch helpu i greu argraff barhaol ar gyfer eich cleientiaid. Cysylltwch â ni i drafod eich brand.

gwefannau

Rydyn ni’n creu gwefannau hardd a dynamig (yn union fel yr un hon!). Mae ein holl gwefannau wedi’u hadeiladu gan ddefnyddio WordPress fel CMS felly mae’n hawdd i chi eu diweddaru a’u diwygio.

argraffu

Beth bynnag sydd angen i chi ei ddylunio ar gyfer print, gallwn ei gyflawni. Posteri, taflenni, llyfrynnau, cylchgronau. Gallwn hefyd drefnu a rheoli’r holl broses o’r syniad gwreiddiol i’r argraffiad terfynnol.

cysylltwch

Oes gennych chi brosiect hoffech i ni weithio arno? Chwilio am ddyfynbris? Anfonwch neges i ni gan ddefnyddio’r ffurflen isod, neu defnyddiwch y manylion cyswllt ar waelod y dudalen. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â sy’n bosib.